Blog Banner

Wyth o Gleision Caerdydd yng ngharfan Merched Cymru

Cymraeg | 14th January 2020


Mae wyth o chwaraewyr Gleision Caerdydd wedi eu dewis yng ngharfan Merched Cymru ar gyfer ymgyrch y Chwe Gwlad eleni.

Mae'r tîm hyfforddi, sydd yn cynnwys Chris Horsman, Geraint Lewis a Gareth Wyatt, wedi dewis carfan o 34 o ferched, gyda cymysgedd cyffrous o chwaraewyr ifanc a phrofiadol.

Ar ôl gwneud eu ymddangosiad cyntaf dros eu gwlad yn ystod yr Hydref, mae pedwarawd Gleision Caerdydd - Abbie Fleming, Georgia Evans, Megan Webb a Paige Randall - wedi eu cynnwys yn y garfan terfynol.

Mae'r rheng-ôl addawol, Manon Johnes, yn cadw ei lle yn y garfan, gyda Robyn Wilkins, Hannah Bluck a Cerys Hale hefyd wedi eu henwi.

Mae Kelsey Jones, sydd yn chwarae i'r Gweilch, ond yn rhan o dîm Cymuned Gleison Caerdydd, wedi ei dewis ymysg y blaenwyr.

Siwan Lillicrap yw'r capten a'r prop Ruth Evans yw'r unig chwaraewr di-gap sydd wedi ei dewis.

Bydd holl gemau cartref y tîm yn cael eu chwarae ym Mharc yr Arfau Caerdydd, gyda tocynnau ar gael YMA

Carfan Chwe Gwlad Merched Cymru 2020: Alisha Butchers, Alex Callender, Gwen Crabb, Georgia Evans, Abbie Fleming, Cerys Hale, Lleucu George, Cara Hope, Natalia John, Manon Johnes, Kelsey Jones, Molly Kelly, Sarah Lawrence, Bethan Lewis, Ruth Lewis, Siwan Lillicrap, Robyn Lock, Gwenllian Pyrs, Keira Bevan, Hannah Bluck, Hannah Jones, Jasmine Joyce, Courtney Keight, Kerin Lake, Caitlin Lewis, Ffion Lewis, Lisa Neumann, Kayleigh Powell, Paige Randall, Lauren Smyth, Elinor Snowsill, Niamh Terry, Megan Webb, Robyn Wilkins

Gemau Chwe Gwlad Merched Cymru:

Dydd Sul, Chwefror 2: Cymru v Yr Eidal (Parc yr Arfau Caerdydd, CG 1.00yh)

Dydd Sul, Chwefror 9: Iwerddon v Cymru (Donnybrook, CG 1.00yh)

Dydd Sul, Chwefror 23: Cymru v Ffrainc (Parc yr Arfau Caerdydd, CG 12.00yh)

Dydd Sadwrn, Mawrth 7: Lloegr v Cymru (Twickenham Stoop, CG 12.05yh)

Dydd Sul, Mawrth 15: Cymru v Yr Alban (Parc yr Arfau Caerdydd, CG 13.10yh)