Blog Banner

Williams yn falch o berfformiad Gleision Caerdydd ym Melffast

3rd December 2018


Mae Lloyd Williams yn credu gall Gleision Caerdydd fod yn falch o'u perfformiad yn erbyn Ulster dros y penwythnos.

Colli o bedwar pwynt oedd hanes tîm John Mulvihill yng Ngogledd Iwerddon, gyda’r mewnwr yn gapten ar ei ranbarth, yn dilyn absenoldeb Ellis Jenkins trwy anaf.

Roedd y chwaraewr rhyngwladol yn credu fod ei dîm yn anlwcus gyda ambell i benderfyniad yn ystod y gêm.

Ond roedd Williams yn mynnu y gallan ei dîm fynd i’r gemau nesaf yn erbyn Saracens yng Nghwpan y Pencampwyr gyda hyder a ffydd.

“Yn ystod yr wythnos, roeddem ni wedi trafod ein bod ni eisiau bod yn y gêm a cael siawns o ennill tuag at y diwedd,” meddai’r mewnwr.

“Dwi’n credu fel tîm ac unigolion y gallwn ni fod yn falch o’r perfformiad, a ein bod ni wedi llwyddo i wneud hynny.

“Rhywbeth arall oedd wedi cael ei drafod oedd ein bod ni eisiau chwarae lawr yn eu hanner nhw, a rheoli tiriogaeth y gêm.

“Roeddem ni wedi llwyddo i wneud hynny trwy’r hanner cyntaf, ac wedi cychwyn yr ail hanner yn dda, ond roedd Ulster yn cael y ciciau cosb a roedd eu llinellau amddiffyn nhw’n gryf iawn.

“Fel pob gêm, bydd ambell i gic cosb byddwch chi ddim yn cytuno gyda, a dyna yw rygbi ar ddiwedd y dydd, a bydd hynny wastad yn digwydd.

“Mae adegau yn ystod y tymor lle bydd pethau yn mynd yn eich erbyn chi. Dwi’n siwr y bydd y lwc yna yn newid yn ystod y tymor.

“Bydd Seb [Davies] wedi synnu ei fod wedi cael cerdyn ond dyna oedd dewis y dyfarnwr, a mae’n rhaid i ni wrando arno fe ar ddiwedd y dydd.

“Ni’n wynebu’r Saracens wythnos nesaf, a ni’n chwarae nhw ddwywaith yn olynol nawr.

“Bydd y gemau hynny yn sialens enfawr i ni ond yn gyfle i ni brofi ein hunain fel tîm.

“Mae nhw wedi dangos dros y blynyddoedd pa mor gryf mae nhw’n gallu bod yn Ewrop felly mae’n gyfle enfawr i ni ddangos i bawb beth ni’n gallu gwneud fel tîm rygbi.

“Roedd hi’n bwysig i ni cael perfformiad da yn erbyn Ulster yn gyntaf, ac os ni’n perfformio fel yna yn y dyfodol, bydd y canlyniadau yn dilyn. Ni eisiau bod yn falch o’r perfformiadau pob wythnos.”