Blog Banner

Williams yn canmol yr ymdrech amddiffynol yn erbyn Connacht

28th January 2019


Mae Lloyd Williams yn credu gall ei dîm fod yn falch o'u ymdrech amddiffynol yn y fuddugoliaeth PRO14 dros Connacht nos Sadwrn.

Roedd y mewnwr yn allweddol yn erbyn y Gwyddelod, gan osod y platfform i Owen Lane groesi am gais gwefreiddiol yn yr hanner cyntaf, wrth i’r rhanbarth symud o fewn dau bwynt i’r Gweilch a Connacht yn y tabl.

Mae Williams yn cyfaddef fod y tywydd wedi rhwystro’r chwarae yn y brifddinas, ond mae’n mynnu mai’r canlyniad oedd y blaenoriaeth i dîm John Mulvihill.

“Roedd hi'n bwysig ein bod ni’n ennill yn erbyn Connacht, ac er fod y perfformiad efallai ddim cystal, sicrhau’r canlyniad oedd ein blaenoriaeth,” meddai’r mewnwr.

“Roeddem ni wedi gweld beth fyddai’r tywydd yn ystod yr wythnos, felly roedd yna amser i baratoi a doedd e ddim yn rhywbeth oedd rhaid delio gyda fe munud olaf ar diwrnod y gêm.

“Ein bwriad ni oedd ceisio chwarae’r gêm i lawr yn hanner Connacht gymaint a phosib, ac i fod yn dêg, fe wnaethom ni lwyddo i wneud hynny am ganran sylweddol o’r gêm.

“Mae’n rhaid i bawb weithio’n galed pan ni ddim gyda’r bêl. Roedd hi’n siomedig bod nhw wedi sgorio ar y diwedd, ond ni’n credu yn ein amddiffyn ni a gallwn fod yn falch o’n ymdrech i gadw nhw mas am rhan fwyaf o’r gêm.

“Gyda’r tywydd fel oedd e, mae’n siawns i roi timau dan pwysau, a dyna oedd ein bwriad yn mynd i mewn i’r gêm. Roedd yna siawns i ddod i’r gêm gyda cyflymder yn ein llinell amddiffynol a roeddem ni wedi llwyddo i wneud hynny.

“Ni ddim yn canolbwyntio ar y tabl ar y foment, a dyw e ddim yn rhywbeth ni’n trafod ar hyn o bryd.

“Mae gwneud hynny yn ychwanegu pwysau ar y garfan ond ni eisiau canolbwyntio ar ein perfformiadau o wythnos-i-wythnos.

“Fel carfan, yr oll allwn ni wneud yw gwella o un gêm i’r nesaf a gobeithio byddai’r canlyniadau yn dilyn.”