Blog Banner

Rhaid cychwyn ymgyrch Ewrop gyda bang meddai Turnbull

Cymraeg | 13th November 2019


Mae hi’n hanfodol i Gleision Caerdydd gychwyn yr ymgyrch Ewropeaidd gyda ‘bang’, yn ôl Josh Turnbull.

Bydd Gleision Caerdydd yn teithio i’r Eidal dros y penwythnos i wynebu Calvisano yn rownd agoriadol Cwpan Her Ewrop.

Roedd y blaenwr rhyngwladol yn rhan o garfan Gleision Caerdydd yn ystod y fuddugoliaeth byth-gofiadwy dros Gloucester yn Bilbao yn 2018.

Mae Turnbull yn cyfaddef nad yw’n gwbwl gyfarwydd â Calvisano, ond mae’n mynnu fod y garfan yn benderfynol o flasu mwy o lwyddiant yn Ewrop eleni.

Dywedodd Turnbull: “Ni ddim yn hollol siwr beth i ddisgwyl gan Calvisano, ond ni wedi wynebu nhw cwpwl o flynyddoedd yn ôl yn yr un pencampwriaeth.

“Mae cyn chwaraewyr proffesiynnol gyda nhw, a bydd hi’n prawf i rhai o’r bois ifanc sydd yn cael cyfle wythnos yma.

“Mae’n bwysig bod ni’n chwarae’n dda yn y Cwpan Her yma. Ni wedi gwneud yn dda yn y pencampwriaeth yma o’r blaen, yn enwedig mas yn Bilbao, a mae’n rhywbeth sydd yn bwysig iawn i ni fel tîm.

“Ni eisiau gwneud yn dda yn Ewrop, a byddwn ni’n edrych i cychwyn y tymor Ewrop gyda bang penwythnos hyn.

“Mae’n pwysig i ni canolbwyntio ar ein hunain, yn enwedig yn erbyn tîm fel Calvisano lle ni ddim yn gwybod lot amdanyn nhw.

“Mae’n bwysig i fynd mas ‘na a cael buddugoliaeth i gychwyn y gystadleuaeth.”

Croesodd Turnbull am gais yn y fuddugoliaeth dros Toyota Cheetahs wythnos diwethaf, gyda rhediad o bedair gêm heb golli yn dod i ben i dîm John Mulvihill, a roedd y blaenwr yn falch o weld y tîm yn dangos eu gallu ymosodol yn erbyn y tîm o De Affrica.

Ychwanegodd Turnbull: “Yn amlwg, aeth y gêm gyntaf mas yn De Affrica yn dda, ond roedd hi’n galed ar ôl hynny.

“Doedd y perfformiadau ddim ‘na fel grwp, ond penwythnos diwethaf yn erbyn y Cheetahs roedd y tîm yn wych.

“Roedd bwriad i chwarae rygbi y ffordd ni’n hoffi chwarae.

“O’ ni’n dechrau teimlo rhywfaint o bwysau, ond roedd hi’n fuddugoliaeth dda nos Sadwrn a fel carfan roeddem ni wedi dangos beth ni’n gallu gwneud.

“Yn erbyn y Cheetahs, roedd ein stamp ar y gêm yn gynnar a ni wedi llwyddo i barhau hynny trwy’r gêm.

“Oedd e’n grêt gweld y bois yn mynd mas i chwarae gyda gwên ar eu wynebau nhw.

“O’ ni wedi sgorio cwpwl o ceisiau da a taflu’r bêl rownd fel ni’n gallu a wedi dangos blwyddyn diwethaf.”