Blog Banner

Rhaid creu awyrgylch ein hunain yn Stadiwm Kingspan - Harries

Cymraeg | 24th October 2019


Mae Jason Harries wedi pwysleisio’r pwysigrwydd i garfan Gleision Caerdydd greu awyrgylch eu hunain wrth deithio i Belffast i wynebu Ulster nos Wener.

Mae tîm John Mulvihill yn teithio i brifddinas Gogledd Iwerddon yn chwilio am eu ail buddugoliaeth oddi-cartref o’r tymor, ond yn mynd i fewn i’r ornest ar ôl colli eu dwy gêm diwethaf, yn erbyn Caeredin a Glasgow Warriors.

Mae disgwyl amodau gwlyb a gwyntog yn Stadiwm Kingspan nos Wener, a mae’r asgellwr yn barod am gêm dynn lle bydd pob pwynt yn bwysig.

“Ni wedi paratoi am gêm gorfforol iawn. Mae nhw’n fois mawr sydd yn hoffi cario’r bêl ond ni’n barod am y sialens ‘na,” meddai’r cyn-chwaraewr saith-pob-ochr.

“Fi dal i gofio bod mas yna llynedd a sut mae’r dorf yn helpu’r tîm ymlaen. 

“Ond ni wedi siarad am pwysigrwydd o greu awyrgylch i ni ein hunain mas yna a gwneud yn siwr ni’n edrych ar ôl ein hunain.

“So ni’n bell bant a bod yn onest, ond mae eisiau i ni gymryd pwyntiau pan ni’n gallu. 

“Ni’n llwyddo i roi timau dan bwysau ond mae’n rhaid i ni gymryd y pwyntiau pan mae nhw ar gael i ni yn y 22.

“Mae hi wastad yn gêm agos yn erbyn Ulster a llynedd dim ond un sgôr oedd ynddi, felly dyna pam fod hi’n bwysig i gymryd unrhyw bwyntiau pan mae nhw ar gael.

“Dyw’r tywydd ddim yn edrych yn dda iawn, felly gallai pob pwynt fod yn bwysig.”

Mae Harries wedi ei enwi ar yr asgell ar gyfer yr ornest ym mhrifddinas Gogledd Iwerddon, a bydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf o'r tymor.

Mae’r Gleision wedi sicrhau chwech o bwyntiau o’u dwy gêm oddi cartref hyd yn hyn, gan gynnwys buddugoliaeth â pwynt bonws yn erbyn Southern Kings yn Ne Affrica.

Yn ôl Harries, mae’r garfan yn benderfynol o wella eu record ar y rhewl eleni a mae’r tîm yn canolbwyntio’n llwyr ar y dasg o’u blaenau.

“Mae pob gêm yn bwysig i ni. Ni wedi chwarae tair, ennill un a colli dwy hyd yn hyn.

“Blwyddyn diwethaf, roeddem ni wedi ennill nifer o gemau gartref ond ddim gymaint wrth fynd i ffwrdd.

“Ond ni wedi pigo lan chwech pwynt ar y rhewl yn barod, ac wedi bod yn agos yn erbyn Caeredin a Glasgow.

“Os byddai’r canlyniadau ‘na wedi mynd o’n plaid ni, bydden ni’n edrych ar naw neu 10 pwynt ar y rhewl.

“Mae’n bwysig i fynd i Ulster i gael y fuddugoliaeth ‘na.

“Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar Ulster nos Wener. Fi’n siwr fod pawb yn edrych ymlaen i wylio Cymru yn chwarae dydd Sul ond mae’n bwysig i ni sicrhau bod ni’n canolbwyntio ar Ulster yn unig.”