Blog Banner

Pedwarawd Gleision Caerdydd yn serennu i Gymru yng Nghwpan y Byd

Cymraeg | 23rd September 2019


Chwaraeodd pedwar o sêr Gleision Caerdydd eu rhan wrth i Gymru sicrhau pwyntiau llawn yn erbyn Georgia yn ngêm agoriadol Cwpan y Byd yn Siapan.

Roedd y pwynt bonws wedi ei seilio o fewn yr hanner cyntaf, gyda Josh Adams yn serennu drwy chwarae rhan allweddol yng nghais Justin Tipuric cyn sgorio trydydd cais ei dîm.

Roedd Josh Navidi hefyd yn un o’r rheini i sefyll allan i'r crysau cochion, gan gyfrannu'n amlwg i’r ymdrech ymosodol ac amddiffynol.

Daeth Dillon Lewis a Tomos Williams o’r fainc, gyda’r mewnwr yn creu argraff drwy groesi’r gwyngalch ac chreu cais olaf y gêm i George North.

Gyda pum pwynt ar y tabl, mae gan Gymru chwe diwrnod i baratoi cyn iddynt wynebu Awstralia yn Tokyo dydd Sul.

Dim ond tri munud oedd ar y cloc pan agorodd Cymru’r sgorio yn Toyota. Pas Gareth Davies wnaeth greu lle i Jonathan Davies groesi ar gyfer cais cyflymaf Cymru mewn gêm Cwpan y Byd.

Ychwanegodd Dan Biggar gic gosb i roi ei dîm wyth pwynt ar y blaen, ond, wedi 15 munud, roedd y Cymry wedi croesi am eu ail gais o’r gêm.

Adams wnaeth fylchiad yng nghanol y maes, a bwydo i’r mewnwr Davies oedd yn cymorthi. Cafodd ei daclo ychydig fetrau yn fyr o’r llinell gais, ond roedd digon o le i Tipuric ffugio ei ffordd i sgorio o dan y pyst.

Roedd asgellwr Gleision Caerdydd, Adams, yn parhau i fygwth amddiffyn Georgia, gyda bylchiad ar yr asgell chwith ond methodd Davies gadw ei afael ar y bas tu fewn.

Munudau yn ddiweddarach, croesodd Adams am gais haeddianol, gyda pas Biggar yn rhyddhau’r asgellwr cyn iddo ddangos digon o gyflymder i gyrraedd y llinell gais.

Ar ôl goroesi cyfnod o bwysau, gyda Navidi yn chwarae rhan allweddol yn yr amddiffyn, fe seiliodd Cymru y pwynt bonws cyn ddiwedd yr hanner, gyda Liam Williams yn ychwanegu ei enw i’r sgor-fwrdd.

Yn gynnar yn yr ail hanner, fe groesodd Georgia am eu cais cyntaf drwy’r bachwr Shalva Mamukashvili, ond nid oedd unrhyw amheuaeth am y canlyniad ar ôl i Gymru sgorio eu pumed cais o'r gêm, ar ôl 65 munud.

George North wnaeth ddarganfod tîr gyda chic tu ôl i amddiffyn y Lelos, a’r mewnwr Williams oedd y cyntaf i gyrraedd y meddiant rhydd i sgorio cais ar ei ymddangosiad cyntaf mewn Cwpan Byd.

Er i Levan Chilachava groesi am ail gais i’r tîm o ddwyrain Ewrop, Cymru gafodd y gair olaf diolch i waith gwych gan yr eilydd Williams.

Gyda môr o amddiffynwyr yn ei wynebu, fe ddangosodd seren Gleision Caerdydd draed gwych i guro pedwar o’r Georgiaid, cyn bwydo North gyda dad-lwythiad syfrdanol. Roedd gan asgellwr y Gweilch ddigon o waith i wneud, a fe gyrhaeddodd y linell gais i gwblhau’r sgorio i Gymru.

Mae Cymru yn lefel ar bwyntiau gyda Awstralia yn y grwp, wrth iddyn nhw baratoi i fynd ben-ben â’i gilydd yn y brifddinas dydd Sul.