Blog Banner

Momentwm yn hanfodol cyn cyfnod allweddol - Goodfield

Cymraeg | 28th November 2019


Mae Duane Goodfield yn credu y bydd momentwm yn hanfodol wrth i Gleision Caerdydd baratoi am gyfnod allweddol o’r tymor.

Mae’r rhanbarth yn teithio i’r Eidal dros y penwythnos i wynebu Benetton yn y Guinness PRO14.

Ar ôl hynny, bydd dwy gêm bwysig yn erbyn Pau yn y Cwpan Her cyn rhediad o dri gêm ddarbi dros cyfnod y nadolig.

Mae’r hyfforddwr sgrym yn ymwybodol o’r dasg sydd i’w ddisgwyl yn Treviso ond mae’n mynnu fod rhaid i’w dîm ganolbwyntio ar perfformiad eu hunain.

“Roedd hi’n anodd yn gynnar yn yr wythnos, yn enwedig dydd Llun, ond ni’n edrych ymlaen nawr i fynd mas i Treviso,” meddai’r cyn fachwr rhanbarthol.

“Ni eisiau rhoi perfformiad da i mewn penwythnos yma. 

“O ni’n siomedig iawn o’r perfformiad yn erbyn Leicester a ni’n gwybod bod rhaid i ni bod yn well.

“Mae siawns mawr penwythnos yma i’r chwaraewyr sydd wedi colli mas ar le yn y tîm dros yr wythnosau diwethaf.

“Mae’n rhaid i ni rhoi popeth i mewn i’r gêm yma, ond ni’n gwybod bod e’n mynd i fod yn gêm anodd iawn.

“Mae nhw’n dîm sydd yn chwarae rygbi da ac yn dîm da iawn ar hyn o bryd. Mae nhw’n llawn o chwaraewyr sydd wedi chwarae dros yr Eidal.

“Bydd hi’n gêm gyflym iawn, ond mae pac cryf ganddyn nhw hefyd, felly bydd rhaid i ni ganolbwyntio ar ein perfformiad ni’n hunain.

“Mae’n bwysig i adeiladu am y gemau sydd i ddod hefyd, a bydd hi’n dechrau gyda’n perfformiad ni.

“Gobeithio gallwn ni cael perfformiad da penwythnos yma a wedyn gallwn ni canolbwyntio ar y gemau sydd i ddod.”

Y Gleision yw’r unig dîm yn y PRO14 i gynnal record 100 y cant ar pêl eu hunain yn y sgrymiau eleni.

Mae Goodfield yn hapus i weld y gwaith caled o’r cae ymarfer yn cael effaith bositif yn y gemau, ond mae’n benderfynol o weld y tîm yn parhau gyda’r safonnau uchel.

“Ni’n ffodus fod y sgrym yn mynd yn dda ar hyn o bryd. Mae’r bois yn gweithio yn galed iawn a ni gyda pac ifanc hefyd.

“Ni’n canolbwyntio ar datblygu’r pac yma yn y Gleision, a mae’r bois yn gweithio yn galed.

“Mae bois fel Dmitri [Arhip] a Corey [Domachowski] mas a Dillon Lewis gyda Cymru.

“Ni’n gwybod bydd sialens mawr wythnos yma ac yn yr wythnosau sydd i ddod yn y sgrym, ond mae’n bwysig i ni gario ymlaen gyda’r safon.”