Blog Banner

Millard yn bositif wrth i Gleision Caerdydd gipio dau bwynt bonws

19th February 2019


Mae Harri Millard yn credu gall Gleision Caerdydd fod yn bositif ar ôl iddynt sicrhau dau bwynt bonws yn erbyn Glasgow Warriors dros y penwythnos.

Gyda’r ddau dîm yn sgorio pum cais yr un, troed Peter Horne oedd y gwahaniaeth ar y noson, wrth i’r Albanwyr adael y brifddinas gyda’r uchafswm o bump pwynt.

Roedd y ddau bwynt yn golygu fod tîm John Mulvihill yn gyfartal â’r Gweilch yn y tabl, gyda Connacht ar y blaen yn y trydydd safle o bedwar pwynt.

Roedd y canolwr yn falch o agwedd ei dîm tuag at ddiwedd yr ornest, ond mae’n mynnu fod rhaid iddynt ddysgu eu gwers o’r hanner cyntaf.

"Mae'n rhaid i ni gymryd y ddau bwynt bonws a bod yn hapus gyda hynny, oherwydd gyda 15 munud yn weddill, roedd 'da ni ddim pwyntiau o gwbwl," meddai Millard.

"Bydden ni wedi gallu cipio'r fuddugoliaeth yn y diwedd, ond wnaeth e ddim digwydd i ni tro hwn.

"Ond mae Glasgow yn dîm caled iawn i wynebu, a mae nhw wedi bod tuag at frig y tabl trwy'r tymor am reswm.

"Roedd hi'n siom i golli'r gêm, oherwydd roedd gyda ni'r momentwm yn mynd mewn i'r pum munud olaf.

"Pan oeddwn i'n gweld Matthew Morgan yn mynd lawr yr asgell tuag at y diwedd, roeddwn yn teimlo fod unrhyw beth yn gallu digwydd.

"Ni wedi chwarae yn erbyn Glasgow pedair gwaith tymor yma a mae nhw wedi llwyddo i guro'r gêm yn yr hanner cyntaf a sgorio dros 20 pwynt yn erbyn ni.

"Mae'n siomedig oherwydd fel tîm ni wedi gweithio yn galed yn ymarfer wythnos yma a ceisio gwneud popeth yn gywir.

"Mae hi'n agos iawn am y trydydd safle ar y foment, a mae'n rhaid i ni ennill rhan fwyaf o'n gemau ni rhwng nawr a diwedd y tymor.

"Mae am fod yn galed, ond mae'n rhaid i ni barhau i ymarfer galed a paratoi yn gywir i wynebu pob tîm o wythnos-i-wythnos.

"Rhaid i ni daflu popeth at hwn oherwydd does dim byd i'w golli."