Blog Banner

Lewis yn gwireddu breuddwyd Cwpan y Byd

Cymraeg | 4th September 2019


Mae Dillon Lewis yn gwireddu breuddwyd oes wedi iddo gael ei ddewis yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yn Siapan.

Mae hi wedi bod yn brofiad swreal i’r prop o Gleision Caerdydd, sydd yn parhau i sefydlu ei hun ar y llwyfan rhyngwladol.

Mae Lewis yn dweud ei fod hi’n foment arbennig i’w deulu cyfan, a mae’n edrych ymlaen i gael blas o ddiwylliant y dwyrain pell.

“Sai’n gallu credu fe i fod yn onest,” meddai Lewis. “Mae hi wedi bod yn flwyddyn ardderchog hyd yn hyn a mae cael fy enwi i fod yn y garfan i fynd i Siapan wedi coroni’r cyfan.

“Mae fy rhieni ar eu gwyliau yn Corfu ar y foment, ond mae Dad wedi ffonio fi lan a crio lawr y ffôn.

“Mae e’n neis iddyn nhw hefyd i weld fi’n mynd i Cwpan y Byd, oherwydd mae nhw wedi rhoi gymaint i fi pan oeddwn i’n ifanc.

“Mae’n rhywbeth ti’n breuddwydio am pan ti’n ifanc a mae pob bachgen sydd yn chwarae rygbi yng Nghymru eisiau mynd i chwarae yng Nghwpan y Byd.

“Mae’n rhywbeth ti wastad yn gweithio tuag ato a does dim llawer o bethau gwell na chael dy enwi mewn carfan Cwpan y Byd.

“Sai’n gwybod llawer am Siapan i fod yn onest, a sai wedi bod yna o’r blaen.

“Ond fi’n hoffi sushi, felly bydd hynny’n dda, ond bydd rhaid fi edrych ar Google cyn mynd a dysgu am y ddiwylliant cyn i mi fynd.”

Cyn hedfan i Siapan, mi fydd tîm Warren Gatland yn teithio i Ddulyn dydd Sadwrn i wynebu Iwerddon.

Ond nid pawb fydd yn gwneud y daith, gyda un o ffrindiau pennaf Lewis - Jarrod Evans - ymysg y rhai oedd yn anlwcus i beidio cael eu dewis yn y garfan o 31, ond mae’r prop yn hyderus y bydd y maswr yn llwyddo i ymateb i’r siom.

“Mae pawb yn gwybod pa mor dda yw Jarrod. Mae’n chwaraewr ardderchog, a fi wedi bod yn ffrindiau gyda fe ers ni’n saith mlwydd oed.

“Fi’n ‘gutted’ iddo fe, a bydde fe wedi bod yn neis cael e yn Siapan gyda ni.

“Ond o ‘nabod Jarrod, bydd ei ben e ddim yn mynd i lawr, a bydd e’n mynd yn ôl i’r Gleision ac yn chwarae yn well nag erioed.

“Mae e wedi cael Haf da o ymarfer gyda Cymru, felly bydd e’n ffit, a fi’n gyffrous i’w weld o’n chwarae eto eleni.

“Fi eisiau cymryd unrhyw siawns i chwarae dros Gymru, a byddai hi’n dda i gael chwarae allan yn Dulyn.

“Fi’n gyffrous am y gêm, a gobeithio y byddai'n cael fy newis.”