Blog Banner

Lewis yn edrych ymlaen i ddychwelyd i grys Gleision Caerdydd

Cymraeg | 12th January 2020


Mae Dillon Lewis yn edrych ymlaen i ddychwelyd i grys Gleision Caerdydd, ar ôl iddo wella o anaf i linyn y gar.

Chwaraeodd y prop dros Gymru ym mhob gêm yng Nghwpan y Byd yn Siapan, a fe arwyddodd gytundeb newydd gyda’i ranbarth yn gynharach wythnos yma.

Bydd Lewis yn gwisgo’r cryf rhif tri yn Welford Road dydd Sul, a mae’n mynnu fod rhaid i’w dîm fod yn fuddugol yn yr ornest er mwyn cadw eu gobeithion yn fyw yn Ewrop.

“Mae’n gyffrous i fod yn ôl ar ôl i fi i gael anaf anlwcus,” meddai Lewis.

“Nes i ddod yn ôl ar ôl chwarae yn erbyn y Barbarians a ges i’r anaf wrth ymarfer yn ystod yr wythnos.

“Roedd e’n rhwystredig, ond mae’n rhan o’r gêm a ti’n gwybod fod anaf yn gallu dod.

“Ti byth yn gwybod pryd fydd e’n digwydd felly dyna pam oedd e’n rhwystredig.

“Ond fi’n edrych ymlaen i ddod yn ôl i chwarae gyda ffrindiau a’r bois mas ar y cae. Fi methu aros.

“Gyda tîm o Lloegr, ti’n gwybod beth ti’n mynd i cael - pac enfawr. Mae nhw wedi ennill penwythnos diwethaf a mae nhw’n adeiladu momentwm.

“Ni’n gwybod bydd hi’n sialens mawr i ni a mae’n rhaid i ni ennill os ni eisiau mynd ymlaen yn y gystadleuaeth, ond mae’n brofiad cyffrous i ni.

“Mae gyda nhw pac pwerus, gyda bois fel Ellis Genge yn ôl o Cwpan y Byd. Bydd e’n sialens da i’r rheng flaen a cyfle i cael bragging rights. 

“Fi’n edrych ymlaen i fe a fi’n credu fod pac gyda ni fydd yn gallu gwneud y job.

“Mae’n gêm mae’n rhaid i ni ennill os ni eisiau mynd ymlaen yn y gystadleuaeth. Fel clwb, mae lot o pride gyda ni yn y twrnament yma.”

Ar ôl arwyddo’r cytundeb newydd gyda Gleision Caerdydd, mae Lewis yn gobeithio cael ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad wythnos nesaf.

Mae’r prop yn dweud ei fod wedi elwa o’i brofiad yn Siapan yn gynharach eleni, a mae’n hapus i ymestyn ei amser gyda’r rhanbarth.

“Fi gyda pythefnos i rhoi fy dwylo lan. Roedd yr anaf yn golygu mod i wedi colli allan ar chwarae yn y gemau darbi.

“Mae llawer o’r bois yn y tîm wedi chwarae yn dda eleni ac eisiau defnyddio y gêm penwythnos yma i brofi eu hunain unwaith eto.

“Roedd Cwpan y Byd yn enfawr i fi. Roedd yna llawer i fi gymryd o’r profiad.

“Fel chwaraewr sydd wedi tyfu lan yn gwylio’r gemau hyn, dyma’r lefel ti eisiau chwarae.

“Fi wastad wedi bod eisiau chwarae dros Cymru, yn enwedig yn Cwpan y Byd, felly roedd hi’n ffantastig i fynd allan i chwarae a cael y profiad yna yn Siapan.

“Fi’n hapus iawn i aros gyda’r clwb. Fi wedi bod yma ers oeddwn i’n 16 ac wedi dod trwy’r system a fi’n cyffrous am y tair blynedd nesaf.

“Mae llawer o bois yma fi wedi chwarae gyda ers oeddwn i’n wyth mlwydd oed, fel Jarrod Evans.

“Ni wedi dod trwy’r system gyda’n gilydd. Bydd hi’n cyffrous i weld beth sydd yn digwydd yn y dyfodol a fi’n hapus i aros.

“Oedd e byth yn meddwl fi i fynd. Fi dal dim ond yn 24 oed a bydd e ddim yn gwneud unrhyw synnwyr i fi mynd. 

“Fi eisiau rhoi fy llaw lan a cael siawns i chwarae dros Cymru a fi eisiau rhoi y siawns gorau i fy hunain.”