Blog Banner

Lane i wneud ei ymddangosiad Cwpan y Byd cyntaf yn erbyn y Crysau Duon

Cymraeg | 30th October 2019


Bydd Owen Lane yn gwneud ei ymddangosiad Cwpan y Byd cyntaf wrth i Gymru wynebu Seland Newydd yn y gêm trydydd safle yn Tokyo dydd Gwener.

Mae'r asgellwr yn un o bump o sêr Gleision Caerdydd sydd wedi eu dewis i gychwyn y gêm, gyda Warren Gatland yn gwneud naw o newidiadau i herio'r Crysau Duon.

Er i'r asgellwr addawol fethu allan ar docyn i Japan yn wreiddiol, fe wnaeth Lane ymuno â'r garfan yn dilyn anaf i Josh Navidi.

Yn ymuno â Lane yn y tri ôl mae Josh Adams ac Hallam Amos, sydd wedi symud i'r Gleision dros yr haf. Gyda chwe cais i'w enw hyd yn hyn, mae Adams yn edrych i sicrhau ei le fel prif sgoriwr ceisiau y gystadleuaeth, a fe yw unig chwaraewr Cymru i gychwyn ym pob gêm yn yr ymgyrch.

Mae Tomos Williams wedi serennu o'r fainc drwy'r gystadleuaeth, a mae'n cael ei wobrwyo am ei berfformiadau. Bydd y mewnwr yn cychwyn gêm Cwpan y Byd am y tro cyntaf.

Un arall sydd wedi cael ei alw i'r tîm yw Dillon Lewis. Mae'r prop yn gwisgo'r crys rhif tri yn Tokyo, a mae'n aelod arall o'r garfan sydd wedi chwarae ym mhob gêm eleni.

Dyma'r gêm olaf i Warren Gatland fod yn brif hyfforddwr o Gymru ar ôl cyfnod hynod lwyddiannus sydd yn cynnwys pedair Camp Lawn, tair tlws Chwe Gwlad a dwy gêm gyn-derfynol yng Nghwpan y Byd.

Tîm Cymru i wynebu Seland Newydd:

1. Nicky Smith (Gweilch) (34 Caps)
2. Ken Owens (Scarlets) (72 Caps)
3. Dillon Lewis (Gleision Caerdydd) (21 Caps)
4. Adam Beard (Gweilch) (19 Caps)
5. Alun Wyn Jones (Gweilch) (133 Caps) (CAPT)
6. Justin Tipuric (Gweilch) (71 Caps)
7. James Davies (Scarlets) (7 Caps)
8. Ross Moriarty (Dreigiau) (40 Caps)
9. Tomos Williams (Gleision Caerdydd) (15 Caps)
10. Rhys Patchell (Scarlets) (18 Caps)
11. Josh Adams (Gleision Caerdydd) (20 Caps)
12. Owen Watkin (Gweilch) (21 Caps)
13. Jonathan Davies (Scarlets) (80 Caps)
14. Owen Lane (Gleision Caerdydd) (1 Cap)
15. Hallam Amos (Gleision Caerdydd) (21 Caps)

Eilyddion:

16. Elliot Dee (Dreigiau) (27 Caps)
17. Rhys Carre (Saracens) (4 Caps)
18. Wyn Jones (Scarlets) (21 Caps)
19. Jake Ball (Scarlets) (41 Caps)
20. Aaron Shingler (Scarlets) (25 Caps)
21. Gareth Davies (Scarlets) (50 Caps)
22. Dan Biggar (Northampton Saints) (78 Caps)
23. Hadleigh Parkes (Scarlets) (24 Caps)