Blog Banner

Knott yn edrych ymlaen i gamu lan i lefel y Cwpan Celtaidd

Cymraeg | 23rd August 2019


Mae Alex Knott yn edrych ymlaen i ddatblygu ei gêm bersonol wrth iddo gamu lan i gynrychioli Gleision Caerdydd A yn erbyn Leinster A dros y penwythnos.

Y pencampwyr sydd yn ymweld â phrifddinas Cymru brynhawn Sadwrn ar gyfer rownd agoriadol y Cwpan Celtaidd.

Mae Knott wedi ei enwi yn y crys rhif 13 ar gyfer yr ornest, ac ei bartner fydd y cyd-gapten profiadol, Sam Beard, sydd wedi chwarae dros Caeredin, Canterbury a’r Dreigiau yn y gorffennol.

Mae’r canolwr yn ffyddiog gall chwaraewyr yr Uwch Gynghrair gamu lan i lefel y Cwpan Celtaidd, a mae’n edrych ymlaen i brofi ei hun yn erbyn tîm o safon Leinster.

“Mae hi’n neis i weld bois o’r Uwch Gynghrair yn gwneud y cam i fyny i chwarae gyda bois sydd wedi chaware yn broffesiynol,” meddai Knott.

“Fel grwp, ni wedi clicio yn syth a mae’r ymarfer wedi bod yn dda gyda Gethin a TRT.

“Ni wedi dysgu lot ganddyn nhw dros yr wythnos diwethaf felly mae hi wedi bod yn dda hyd yn hyn.

“Mae pawb sydd yn chwarae rygbi eisiau cyrraedd y lefel uchaf posib, a dyma’r lefel uchaf mae rhai o ni wedi chwarae, yn enwedig y rhai o’r Uwch Gynghrair.

“Mae pedwar o fois Ponty wedi dod lan, a ni gyd yn y tîm wythnos yma, felly ni’n edrych ymlaen i wneud y cam i chwarae ar lefel uwch.

“Mae’r awyrgylch wedi bod yn un proffesiynol iawn a mae cyfle gwych i ddysgu gan bois fel Gethin Jenkins, a hyd yn oed rhai o’r bois sydd dal yn chwarae hefyd.

“Gallwn ni ddysgu’r pethau bach a mynd a hynny yn ôl i’r Uwch Gynghrair a gwella ein gêm unigol. 

“Mae Sam wedi bod yn chwarae mas yn Seland Newydd, a fi’n chwarae pob wythnos gyda Stuckey felly fi’n gwybod sut mae e’n chwarae.

“Ond bydd hi’n neis i ddysgu gan rhywun profiadol fel Sam a gobeithio bydd e’n gallu helpu i ddatblygu fy gêm i.

“Mae hi’n ddechrau cystadleuol iawn, a roedd hi’n gêm anodd i’r tîm llynedd.

“Gobeithio gall bois yr Uwch Gynghrair gamu lan a rhoi sialens i Leinster pan mae nhw’n dod draw.

“Gobeithio bydd digon o tocynnau yn cael eu gwerthu, ar gyfer gêm cystadleuol a chyffrous.”