Blog Banner

Harries yn falch o weld Gleision Caerdydd yn ymateb yn erbyn Benetton

Cymraeg | 24th February 2020


Roedd Jason Harries yn falch o weld Gleision Caerdydd yn ymateb wrth i’w dîm drechu Benetton nos Sul.

Ar ôl colli o 29-0 yn erbyn Connacht wythnos diwethaf, fe wnaeth tîm John Mulvihill frwydro i gipio’r pwyntiau llawn yn erbyn y clwb o Treviso.

Roedd Harries ymysg y pump sgoriwr cais ar y noson, a mae’r cyn chwaraewr saith-pob-ochr yn credu fod y Gleision wedi dangos eu gallu wrth ymosod yn erbyn yr Eidalwyr.

“Y sgwrs yn ystod hanner amser oedd fod rhaid i ni gadw ein pennau a dangos composure,” meddai Harries.

O’ ni wedi cicio’r bêl bant cwpwl o weithiau a doedd y lein ddim ‘na i stopio nhw. Siaradom ni yn ystod hanner amser a daethom ni mas ar gyfer yr ail hanner a rhoi hynny yn reit.

“Ni’n gwybod ar ddechrau’r gêm fod rhaid i ni gadw’r bêl, a pan ni’n gwneud hynny ni’n beryglus ac yn sgorio ceisiau.

“Dangosodd hynny yn yr ail hanner. Doedd yr hanner cyntaf ddim yn bert ond y roedd y ffordd oeddem ni wedi gorffen y gêm yn dangos lle ni fel tîm.

“Roedd y perfformiad yn siomedig iawn wythnos diwethaf, a o ni’n gwybod na nid tîm fel yna ydym ni. 

“Roedd rhaid brwsho y perfformiad yna dan y carped, a roedd yr ymateb wythnos yma yn spot on.

Ni wedi siarad am pa mor beryglus yw’r cefnwyr sydd gyda ni a pan ni’n cael y bêl, mae’n rhaid i ni ddangos hynny.

“Pan chi’n rhoi chwaraewr fel Hallam mewn lle mae’n gallu bod yn beryglus iawn, fel ni wedi gweld wythnos yma.

“Mae’n neis i gael y bêl yn y sianeli llydan.

“Mae Benetton yn dîm cryf iawn, er fod 10 neu 12 chwaraewr bant gyda’r Eidal. Oedd rhaid i ni roi perfformiad da i mewn i gael y fuddugoliaeth.”

Y dasg nesaf i dîm John Mulvihill yw taith i brifddinas Yr Alban er mwyn gwynebu Caeredin, sydd ar frig grwp B yn y Guinness PRO14.

Mae Harries yn ymwybodol o’r sialens o’u blaenau yn BT Murrayfield, ond mae’n credu y gall ei dîm deithio i Gaeredin gyda hyder.

“Mae’r canlyniad yn cadw ni yn y ras gyda Connacht a ni dim ond pwynt tu ôl iddyn nhw. Ni wedi chwarae tri tîm o’r un Conference a ni’n gwybod pwysigrwydd hynny. Mae’r pump pwynt hyn yn bwysig iawn a rhaid edrych ymlaen at Caeredin wythnos nesaf nawr,” meddai’r asgellwr.

“Mae pump diwrnod gyda ni nawr i droi rownd. Mae diwrnod bant er mwyn cael pawb yn ôl yn iawn a gallwn ni edrych i wneud newidiadau bach cyn teithio i Caeredin nos Wener.

“Mae nhw’n dîm pwerus iawn a ni wedi edrych arnyn nhw yn barod.

“Ni wedi gweld pa mor bwerus mae nhw’n gallu bod yn erbyn Connacht penwythnos ‘ma.

“Bydd rhaid i ni wneud ein gwaith cartref i wneud yn siwr bod ni’n mand lan a dod bant gyda’r fuddugoliaeth.”