Blog Banner

Gleision Caerdydd i gynyddu eu hymroddiad i'r iaith Gymraeg

5th August 2018


Gyda'r tymor newydd yn prysur agosau, mae Gleision Caerdydd yn falch o gyhoeddi eu bod am gynyddu eu hymroddiad i'r iaith Gymraeg.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud ar ddiwrnod #CaerdyddYwDwyieithrwydd, ar stondin Cyngor Caerdydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Bae Caerdydd.

Mae’r newyddion yn golygu y bydd y rhanbarth yn cynyddu eu defnydd o'r Gymraeg  ar draws y busnes.

Bydd y Gymraeg i’w gweld ar arwyddion, deunydd cyfathrebu a marchnata y rhanbarth, gan gynnwys posteri, cyfweliadau a fideos.

Bydd yr iaith hefyd yn fwy amlwg i lygaid a chlustiau’r cefnogwyr ar ddiwrnod gêm, gyda’r bwriad o gyflwyno mwy o gyhoeddiadau stadiwm, cerddoriaeth a gweithgareddau trwy’r Gymraeg.

Dywedodd Mike Brown, Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata Gleision Caerdydd: “Fel busnes sydd yn gweithredu yn nghalon prifddinas Cymru, mae’n bwysig ein bod ni’n ymfalchio ac yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg.

“Mae yna dîm bychan ohonom yn gweithio ym Mharc yr Arfau, a bydd hynny yn cyflwyno sialensau o ddydd-i-ddydd, ond mae cyrff fel Cymdeithas Bêl Droed Cymru, sydd wedi ein cynghori, wedi dangos manteision ac effeithlonrwydd ein hiaith frodorol.

“Mae tua 20 y cant o boblogaeth Cymru yn gallu siarad Cymraeg, gyda chyfartaledd  o 19 y cant yn ein rhanbarth daearyddol, a mae hyn yn parhau i gynyddu gyda tyfiant mewn ysgolion Cymraeg ac ymroddiad Llywodraeth Cymru.

“Mae nifer o chwaraewyr tim cyntaf y rhanbarth yn siaradwyr Cymraeg rhugl, yn ogystal â hyfforddwyr, staff a chefnogwyr.

“Nid yn unig mae dyletswydd arnom i gefnogi’r iaith Gymraeg, ond mi fydd hefyd yn cryfhau ein hunaniaeth.”

Yno i gefnogi’r lawnsiad ar faes yr Eisteddfod roedd seren Gleision Caerdydd a Chymru, Dillon Lewis, gafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Garth Olwg ac yn un o 13 aelod o’r tim cyntaf sydd yn siarad Cymraeg.

Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu gan y mewnwr, Lloyd Williams, aelod o grwp arweinyddiaeth y garfan, sydd yn gweld budd i’r iaith i’r chwaraewyr ddatblygu tu hwnt i’r maes chwarae.

Dywedodd Williams: “Mae’r iaith Gymraeg wastad wedi chwarae rhan bwysig yn fy mywyd i, gan ei bod wedi cael ei chynnwys yn naturiol yn fy mywyd o ddydd-i-ddydd trwy fy nheulu a fy addysg.

“Rwy’n edrych ymlaen i weld Gleision Caerdydd yn rhoi platfform i’r iaith yn y dyfodol. Mae nifer o aelodau’r garfan yn rhugl yn y Gymraeg, ac mae’r iaith i’w chlywed o amgylch y busnes pob dydd.

“Mae’r manteision o siarad Cymraeg yn anferth. Heb os, mae’r iaith yn gallu agor drysau i ffwrdd o’r maes chwarae, a chynnig cyfleuon mewn bywyd ar ôl rygbi.

“Gan ein bod ni wedi ein lleoli yn y Brifddinas, mae hwn yn gyhoeddiad cyffrous, a bydd hunaniaeth a diwylliant y tim yn cryfhau.”