Blog Banner

Cook yn canolbwyntio ar yr agweddau positif

Cymraeg | 14th September 2019


Mae Macauley Cook eisiau canolbwyntio ar yr agweddau positif o berfformiad Gleision Caerdydd A, ar ôl i'w dîm golli i'r Gweilch yn y Cwpan Celtaidd nos Wener.

Roedd hi’n gychwyn addawol i’r tîm oddi-cartref ym Mhen-y-Bont, gyda’r clo Teddy Williams yn croesi am gais cyntaf y gêm ar ôl cyfnod agoriadol cryf.

Ond daeth y tîm cartref yn ôl i sgorio 29 pwynt heb unrhyw ymateb, gyda’r asgellwr Ben Cambriani yn croesi’r gwyngalch ddwywaith yn yr hanner cyntaf.

Roedd Cook, oedd yn gapten ar y tîm ifanc, yn credu fod ei dîm wedi dangos eu gallu corfforol yn yr ornest, ond mae’n cyfaddef fod diffyg disgyblaeth wedi gadael i’r Gweilch adeiladu momentwm wrth i’r gêm fynd yn ei blaen.

“Yn gorfforol, roeddwn i’n meddwl ein bod ni wedi perfformio yn dda yn enwedig yn y blaenwyr, ond roedd hi’n anodd adeiladu momentwm oherwydd ein bod ni’n gwneud gormod o gamgymeriadau,” meddai cyn-gapten Cymru dan-20.

“Mae angen dysgu i adeiladu mwy o gymalau er mwyn gallu bod ar y troed blaen wrth ymosod.

“Roedd yna agweddau positif yn y gêm, gyda cario cryf a gwaith effeithiol ymysg y blaenwyr, a pan roedd yna gyfle i greu cyfres o gymalau, roeddwn yn edrych yn beryg, a mae’r chwarter agoriadol yn dangos fod yna dalent yn y tîm.

“Gallwn ni fod wedi sgorio mwy o bwyntiau yn yr 20 munud cyntaf, fyddai wedi newid y gêm, ond roedd ein disgyblaeth wedi gadael y Gweilch i ddod yn ôl i’r gêm, a roedd ganddyn nhw’r momentwm o’r pwynt hynny.”

Roedd y tîm ifanc yn cynnwys nifer o chwaraewyr sydd yn gymwys i chwarae i’r tîm dan-18, gan gynnwys Mason Grady, Ethan Lloyd, Theo Cabango a Theo Bevacqua.

Mae Cook yn credu fod y gystadleuaeth yn rhoi profiad gwerthfawr i’r chwaraewyr ifanc hyn allu dysgu o’r gemau.

“Roedd rhai o’r chwaraewyr ifanc wedi camu lan, a fi wedi bod yn y safle yna a rwy’n gwybod pa mor werthfawr yw profiadau hyn fel cyfle i ddysgu,” ychwanegodd Cook.

“Mae’n hawdd anghofio pa mor ifanc yw bois fel Ethan [Lloyd], Mason [Grady] a Theo [Bevacqua], ond fe lwyddon nhw roi stamp ar y gêm a chwarae heb ofn.

“Roedd y pac wedi llwyddo i sefyll lan yn gorfforol a roedd hi’n amlwg fod y bois hyn eisiau creu argraff.

“Roedd bois fel fi, Jim [Botham] a Ethan [Lewis] eisiau arwain o’r blaen, a gobeithio gall pawb ddysgu o’r perfformiad a datblygu eu gêm.

“Fel chwaraewyr ifanc, mae’r gystadleuaeth yma yn gyfle i ddysgu ar y cae, yn ogystal ag oddi-ar y cae, a mae gweithio gyda hyfforddwyr fel TRT a Gethin Jenkins yn enfawr.

“Mae taith galed i Munster wythnos nesaf, a fydd y bois sydd yn mynd i Iwerddon yn benderfynol o geisio ymateb ar ôl colli i’r Gweilch.

“Mae mynd i ffwrdd a paratoi mewn amgylchedd proffesiynol yn rhywbeth arall pwysig i’w ddysgu i’r bois ifanc hyn.”