Blog Banner

Canolbwyntio ar un gêm ar y tro yw'r gamp meddai Turnbull

Cymraeg | 5th April 2019


Canolbwyntio ar un gêm ar y tro yw'r gamp i Gleision Caerdydd, yn ôl Josh Turnbull, wrth i'r rhanbarth baratoi i wynebu Munster nos Wener. (CG 7.35yh)

Dim ond tair gêm sydd yn weddill yn y Guinness PRO14, a dim ond trwch blewyn sydd rhwng tîm John Mulvihill a Connacht yn y ras am y trydydd safle er mwyn sicrhau lle yn y chwe olaf.

Mae'r blaenwr yn credu gall y Gleision gymryd hyder o'u buddugoliaeth yn erbyn tîm Johann van Graan yn gynharach yn y gystadleuaeth, ond mae'n ymwybodol o hyder y Gwyddelod, ar ôl iddynt sicrhau eu lle yn rownd gyn-derfynol Cwpan y Pencampwyr Heineken.

"Oedd hi'n berfformiad da yn erbyn y Scarlets tro diwethaf, yn enwedig yn yr hanner cyntaf, a ni eisiau mynd mas i Munster i wneud yr un peth," meddai Turnbull.

"Ni wedi cyrraedd gemau olaf y tymor a ni angen cwpwl o fuddugoliaethau er mwyn aros yn y ras ar gyfer y tri uchaf yn y tabl.

"Byddai gorffen yn y pedwerydd safle yn rhoi ail gyfle i ni chwarae ym mhrif gystadleuaeth Ewrop blwyddyn nesaf. Ond ni'n parhau i ganolbwyntio ar un gêm ar y tro gan gychwyn gyda Munster yn Cork nos Wener.

"Roedd hi'n gêm dda i Munster yng Nghwpan y Pencampwyr yn erbyn Caeredin penwythnos diwethaf, ond ni eisiau canolbwyntio ar ein hunain a beth ni'n gallu gwneud cyn mynd mas i Cork.

"Ni'n gallu creu problemau i dimau eraill a ni wedi dangos hynny'n barod yn erbyn Munster yn gynharach eleni.

"Ni'n gwybod beth ni'n gallu gwneud fel carfan, a ni wedi dangos hynnyn drwy'r tymor, a ni eisiau mwy o hynny yn y gêm nos Wener.

"Mae'n amddiffyn ni wedi bod yn wych yn ddiweddar, a pan yn ymosod mae'r olwyr wedi gallu dangos pa mor beryg mae nhw'n gallu bod."