Blog Banner

Bydd rhaid addasu ein gêm yn Pau - Turnbull

Cymraeg | 13th December 2019


Mae Josh Turnbull yn cyfaddef bydd rhaid i Gleision Caerdydd addasu eu gêm wrth deithio i Ffrainc i wynebu Pau nos Wener.

Ar ôl cipio buddugoliaeth a phwynt bonws yn erbyn y tîm o Ffrainc ym Mharc yr Arfau wythnos diwethaf, bydd y rhanbarth yn teithio i Stade du Hameau nos Wener, gyda disgwyl i’r amodau fod yn wlyb ac yn wyntog.

Mae Pau yn croesawu deuawd y Crysau Duon, Ben Smith a Luke Whitelock, i’w carfan ar gyfer yr ornest, ond mae Turnbull yn mynnu mai canolbwyntio ar gêm eu hunain yw’r gamp i’r Gleision.

“Wrth edrych yn ôl ar y gêm, oeddwn i’n eithaf shocked gyda rhai o’r ceisiau oedd y tîm wedi sgorio.

“Oedd cwpwl o’r bois ar dân yn y gêm. Roedd yr hanneri yn creu popeth i ni, a roedd Ben Thomas wedi sefyll lan a dod mewn i’r tîm i gychwyn gêm Ewropeaidd am y tro cyntaf.

“Roedd yr asgellwyr a Matthew Morgan yn fishi iawn hefyd ond pob clod i’r pac hefyd. Roedd y blaenwyr wedi cael digon o bêl i’r olwyr gallu chwarae.

“Oeddem ni’n gwybod fod pac mawr gyda nhw wythnos diwethaf a roeddem ni eisiau symud nhw rownd y cae, a oedd pac eithaf gloi gyda ni. Felly roedd y game-plan wedi gweithio yn dda i ni.

“Bydd hi’n wahanol wythnos yma, a mae wedi bod yn bwrw glaw ers sbel mas ‘na, a bydd y tîr yn drwm.

“Bydd pac trwm gyda nhw unwaith eto fydd eisiau chwarae gêm araf. Ond y peth pwysig i ni yw mynd mas yna, chwarae gêm ein hunain a canolbwyntio ar beth ni’n gallu gwneud.”

Mae Turnbull hefyd yn credu byddai buddugoliaeth yn rhoi momentwm i’w dîm cyn cyfnod y Nadolig, lle fydd y Gleision yn herio’r Gweilch, Dreigiau ac y Scarlets.

“Ni eisiau cael y fuddugoliaeth cyn symud ymlaen i’r gemau dros cyfnod y Nadolig.

“Ni wedi ennill y gystadleuaeth yma dwy waith o’r blaen a mae’n bwysig i ni bod ni’n gwneud yn dda.

“Mae lot o grwpiau da yn y Cwpan Her, a mae’n dda i geisio curo y timau sydd yn chwarae, oherwydd mae pawb gyda timau cryf a pawb yn mynd mewn i’r gystadleuaeth eisiau chwarae.

“Ar y foment, ni’n cymryd un gêm ar y tro. Mae rhediad yn cychwyn gyda Pau penwythnos yma, cyn mynd i mewn i’r gemau darbi yn erbyn Gweilch, Dreigiau a’r Scarlets a mynd yn ôl i mewn i Ewrop ar ôl hynny.

“Ni ddim yn edrych yn rhy bell ymlaen, a mae hynny’n bwysig oherwydd bydd cyfnod y Nadolig yn fishi a bydd e’n cymryd lot o ymdrech gan y bois.”