Blog Banner

Buddugoliaeth yn ddiweddglo perffaith i wythnos arbennig Williams

Cymraeg | 10th November 2019


Roedd y fuddugoliaeth Guinness PRO14 dros Toyota Cheetahs yn ddiweddglo perffaith i wythnos arbennig Lloyd Williams.

Roedd y mewnwr yn gapten ar ei 200fed ymddangosiad dros ei ranbarth cartref - dim ond yr ail chwaraewr i gyrraedd y garreg filltir dros Gleision Caerdydd.

Daeth teulu Williams i’r ystafell newid i gyflwyno ei grys cyn y gêm, a mae’r mewnwr rhyngwladol yn falch o allu adlewyrchu ar y diwrnod gyda balchder.

“Roedd yn ddiolchgar iawn o gael fy nhad, mam a dwy chwarae yn yr ystafell newid cyn y gem,” meddai Williams.

“Roedd hi’n grêt oherwydd nhw sydd wedi bod yn gefnogwyr mwyaf i mi dros y blynyddoedd a mae fy nyled yn fawr iddyn nhw. Roedd cael fy nghrys ganddyn nhw yn addas iawn.

“Dyw hi ddim yn teimlo yn bell yn ôl pan oeddwn i’n chwarae fy gêm cyntaf, ond mae e. Ni wedi cael uchafbwyntiau ac isafbwyntiau, ond mae’r isafbwyntiau hynny yn gwneud y digwyddiadau hapus yn hyd yn oed gwell.

“Roedd heno yn neis gan ein bod ni wedi ennill a byddai’n gallu edrych yn ôl a cofio bod ni wedi cael buddugoliaeth ar fy 200fed gêm. Fi’n hapus ‘da hynny.

“Fi’n lwcus o fod mewn carfan gyda grwp o fois grêt. Fi ddim yn hoffi ffys, ond fe wnaeth y garfan wneud ffys ohonai drwy’r wythnos.

“Dyw pethau fel hyn ddim yn digwydd ond fi’n ddiolchgar iawn i’r bois ac i bawb yn Gleision Caerdydd am wneud hi’n brofiad arbennig i fi a fy nheulu.

“Fi erioed wedi bod mor nerfus cyn gêm. Mae nerfau yn beth da a roeddwn eisiau i’r gêm fynd yn dda i ni fel tîm a fi’n hapus am hynny.”

Daeth rhediad Gleision Caerdydd o golli pedair gêm yn olynol i ben gyda’r fuddugoliaeth dros Cheetahs.

Roedd y mewnwr yn falch o berfformiad ei dîm a roedd yn llawn o glôd i seren y gem, Jarrod Evans.

Ychwanegodd Williams: “Roeddwn i’n meddwl bod ni wedi chwarae yn dda iawn. Dyna nes i ddweud wrth y bois ar ôl y gêm - nid yn unig roedd buddugoliaeth wedi ei sicrhau ond gallwn fod yn falch o’r perfformiad.

“Yn yr hanner cyntaf, roedd ein stamp ni ar y gem, a roedd y perfformiad yn dangos beth ni’n gallu gwneud.

“Gallwch ddweud fod y cerdyn coch wedi cael effaith ar y gêm, ond er gwaethaf hynny, roedd y tîm mewn lle da, a roedd eu ceisiau nhw wedi dod yn erbyn y momentwm.

“Gobeithio allwn ni barhau gyda’r momentwm o hyn. Ni heb berfformio yn y ffordd ni wedi bod eisiau dros yr wythnos diwethaf, a ‘na pam fod y canlyniadau heb ddilyn.

“Ond nawr gallwn ni ddefnyddio y gêm yma fel ein safon ac adlewyrchu pam ni wedi bod yn dda.

“Mae Jarrod yn chwaraewr gwych a ni’n lwcus i gael cefnwyr talentog.

“Os yw ein blaenwyr yn gorfforol ac yn rhoi’r platfform i ni, mae dyled i ni berfformio yn y cefn.

“Roedd y blaenwyr wedi gadael i ni chwarae rygbi da a fe wnaeth Jarrod arwain hynny i ni.”