Blog Banner

Y canlyniad oedd y blaenoriaeth yn erbyn Cheetahs - Williams

1st October 2018


Mae Lloyd Williams yn mynnu mai'r fuddugoliaeth, yn hytrach nag pwyntiau bonws, oedd y blaenoriaeth i Gleision Caerdydd yn ystod y gêm yn erbyn Toyota Cheetahs nos Wener.

Cychwynodd y mewnwr fel eilydd yn ystod y fuddugoliaeth dros y tîm o Dde Affrica, ond daeth Williams ar y maes i greu argraff, gan sgorio’r cais holl bwysig fyddai’n rhoi’r momentwm yn ôl i’w dîm.

Roedd tri cais yn ddigon i dîm John Mulvihill gipio’r fuddugoliaeth yn erbyn y Cheetahs, wedi iddynt fod 11-pwynt ar ei hôl hi.

Yn ôl y mewnwr rhyngwladol, roedd hi’n bwysig i Gleision Caerdydd ennill gartref, ond mae nhw am barhau i gymryd un gêm ar y tro.

“Yn y diwedd, y canlyniad ac ennill gartref oedd y peth pwysicaf,” meddai Williams.

“Cyn y gêm bydden ni wedi cymryd y canlyniad yna, a mae’n rhaid canolbwyntio ar ennill y gêm gyntaf a wedyn ceisio meddwl am y pwynt bonws.

“Mae hi wastad yn bwysig ein bod ni’n chwarae’n dda gartref. Yn anffodus yn erbyn Leinster, o ni’n teimlo ein bod ni wedi gadael y cefnogwyr i lawr.

“Mae hi hefyd yn bwysig i ni fel chwaraewyr i wastad chwarae yn dda yma ym Mharc yr Arfau.

“Dylse ni wedi cael y pwynt bonws yn ystod yr hanner cyntaf. Roedd blychiadau da gan Gareth Anscombe a  hyd yn oed Rhys Gill, oedd yn braf i’w weld. Ond yn anffodus, oedde ni’n methu gorffen y symudiadau

“Roedd ambell beth wedi cael ei drafod hanner amser a falle daeth fy nghais i oherwydd y newidiadau yna.

“Yn y tair gêm cyntaf, oedd y tîm wedi colli yn y chwarter olaf felly roedd pawb yn bles bod ni’n gallu dod o tu ôl.

“Roedd y tîm wedi gwneud lot o bethe’ da yn y mis cyntaf ond dim ond yn cael un buddugoliaeth.

“Ni’n ceisio symud ymlaen a cymryd un gêm ar y tro a ceisio ennill pob un. Trwy chwarae yn dda, gobeithio bydd y canlyniad yn dilyn.”

Nesaf i’r rhanbarth bydd gêm oddi-cartref yn erbyn y Dreigiau yng Nghasnewydd.

Mae Williams yn disgwyl croeso tanllyd yn Rodney Parade, ond yn credu bydd yr awyrgylch yn gymhelliant i’w dîm.

Dywedodd Williams: “Mae’r gemau darbi yn bwysig iawn i ni fel rhanbarth. Yn bersonol, mae pawb eisiau chwarae yn y gemau yna a chwarae mor dda â phosib.

“Ni’n gwybod beth i ddisgwyl i ffwrdd yn Rodney Parade, ond mae’n gyfle i’r garfan geisio ennill y derbi cyntaf.

“Fi’n credu bod pob chwaraewr yn cofio eu profiad cyntaf nhw yn Rodney Parade, a dyna beth sydd yn arbennig am y lle.

“Yn bersonol, fi’n hoffi chwarae yna, gyda’r dorf yn swnllyd, a mae hi wastad yn braf chwarae mewn gemau fel yna.”