Register here for the Blues Ezine

Share this page
Gleision y Dyfodol
Lansiwyd cynllun datblygu Gleision y Dyfodol ar Barc yr Arfau ym mis Tachwedd 2005.
Mae'r cynllun yn cynnwys tri ar ddeg o Swyddogion Datblygu ac y mae gan bob un ardal ac ystod oedrannau penodol i weithio â nhw.

Mae 56 o Glybiau Rygbi, 58 o ysgolion uwchradd a 321 o ysgolion cynradd o fewn rhanbarth y Gleision ac y mae pob Swyddog Datblygu yn gyfrifol am oruchwylio a chynnig cymorth i athrawon a hyfforddwyr y clybiau. Mae'r Swyddogion Datblygu hefyd yn cynnig hyfforddiant i'r disgyblion.

Mae tystiolaeth i waith neilltuol ein Swyddogion Datblygu i'w gweld ym mhob gêm gartref Gleision Caerdydd wrth i gemau tag o dan 8 oed gael eu chwarae rhwng timau iau'r rhanbarth yn ystod hanner amser.

Wrth i Gleision Caerdydd dyfu, y mae'r cynllun Gleision y Dyfodol newydd yn cynnwys awdurdodau lleol Caerdydd, Bro Morgannwg, De Powys, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful sydd yn rhan o ranbarth y Gleision.

Mae'n ardal enfawr yn cynnwys rhan fawr o boblogaeth Cymru ac, felly, filoedd o chwaraewyr a chefnogwyr posib.

Yn ogystal â'r hyfforddiant yn yr ysgolion a'r clybiau y mae cynllun Gleision y Dyfodol hefyd yn cynnal gwersylloedd hyfforddiant yn ystod gwyliau'r ysgol ar gyfer plant rhwng 8 ac 16 oed sydd wedi bod yn hynod boblogaidd.

Mae adrannau Gleision y Dyfodol hefyd yn cyflawni gwaith gwych trwy gefnogi elusennau lleol yn ogystal â threfnu ymweliadau ag ysbytai ledled y rhanbarth.
Pre-order new Kit now
Next Home Match: Cardiff Blues v Dragons
:: :: ::
Cardiff Blues Junior Blues Clubs on sale
Magners League Heineken Cup LV= Cup

Cardiff Blues, Cardiff City Stadium, Leckwith Road, Cardiff, CF11 8AZ

Ticket Office: 0845 345 1400 | General: 029 2064 3600
Email: enquiries@cardiffblues.com

Legal Notice delivered by Sotic powered by RedDot Web Content Management