Lansiwyd Gleision Caerdydd ym mis Mehefin 2003 fel un o'r pum tîm rhanbarthol Cymru newydd.
Yn wreiddiol, roedd y rhanbarth yn cynnwys clybiau awdurdodau unedol Caerdydd a Bro Morgannwg ac, yn ystod 2004, cafodd y rhanbarth ei ehangu i gynnwys clybiau De Powys, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.
Mae'r prif dîm proffesiynol yn cystadlu yn y cystadlaethau canlynol; Cynghrair Magners, Cwpan Heineken a Chwpan EDF Energy.
Mae'r rhanbarth hefyd yn cael ei gynrychioli gan dimau ar lefel o dan 16 oed, o dan 18 oed ac o dan 20 oed sydd yn cynnwys llwybr datblygu chwaraewyr lle y mae chwaraewyr y dyfodol yn cael eu cydnabod ar gyfer cael eu derbyn i Academi'r Gleision yn Nhrefforest. Mae'r Gleision wedi bod yn llwyddiannus ar lefel o dan 20 oed ac ar lefel o dan 16 oed yn y gystadleuaeth hon.
Mae'rRhanbarth hefyd yn rhedeg Clwb XV y Gleision sydd yn cynnwys chwaraewyr amatur sydd yn chwarae yng nghynghreiriau ASDA.
Mae 64 o glybiau o fewn y rhanbarth gan gynnwys tri chlwb o fewn Uwch Gynghrair y Principality a'r lleill yn chwarae yng nghynghreiriau Swalec.
Am y tro cyntaf yn ei hanes byr, llwyddodd y Gleision i gyrraedd Rownd Gogynderfynol Cwpan Heineken yn ystod 2007/8 gan golli i Toulouse, tîm a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth honno ac sydd wedi ennill pencampwriaeth Ewrop deirgwaith.
Mae'r tîm wedi dod yn ail yng Nghynghrair Magners yn ystod y ddau dymor diwethaf gan gael ei drechu yn ystod rownd olaf y gemau gan y Gweilch yn ystod 2006/7 a Leinster yn ystod 2007/8.
Roedd y Gweilch hefyd yn ddraenen yn ystlys y Gleision yn ystod 2006/7 yng Nghwpan EDF Energy wrth i'r Gleision golli 10-27 ar gae Stadiwm y Mileniwm. Dyna oedd y drydedd o'r pedair gêm y mae'r Gleision wedi chwarae ar gae y stadiwm genedlaethol. Y tro cyntaf, yn ystod 2005/6, curodd Gleision Caerdydd Leinster gan osod record presenoldeb ar gyfer gêm Cynghrair Celtaidd.
Yn dilyn hyn, mynychodd torf o 26,645 (record ar gyfer tîm rhanbarth Cymru mewn gêm pwll Cwpan Heineken) pan gollodd Gleision Caerdydd i dîm Leicester Tigers yn ystod 2006/7. Yn ystod 2008/9, aeth y Gleision gam ymhellach ar y cae ac oddi arno gan guro tîm Caerloyw yn ystod gêm 7 cais, 37-24 yn ystod gêm pwll Cwpan Heineken a gosod record presenoldeb arall o 27,114 yn Stadiwm y Mileniwm.
Llwyddodd y Gleision i sicrhau'r fuddugoliaeth fwyaf, sef 58-0, yn erbyn Connacht ym mis Medi 2008 a buddugoliaeth fwyaf Cwpan Heineken y mis nesaf sef 56-20 oddi cartref yn erbyn Calvisano ym mis Hydref 2008.
Y record ar gyfer pwyntiau wedi'u sgorio yn ystod gêm oedd 60-14 yn erbyn Munster yn y Gynghrair Celtaidd ym mis Ebrill 2004. Mae record y gêm lle y cafodd y mwyaf o bwyntiau eu sgorio (77 o bwyntiau) yn cael ei rannu rhwng buddugoliaeth 55-22 yn erbyn Caeredin ar 13eg Mai 2004 a cholli o 49-18 yn erbyn Munster ym mis Hydref 2005. Hefyd, dyma grasfa drymaf tîm Gleision Caerdydd.
Mae pedwar o chwaraewyr carfan y Gleision wedi cynrychioli Llewod Prydain ac Iwerddon sef Gethin Jenkins, Tom Shanklin, Martyn Williams a Gareth Thomas a oedd yn berchen ar record y chwaraewr i sgorio nifer fwyaf o geisiau dros Gymru a oedd hefyd yn Gapten ar dîm y Llewod cyn ymuno â'r Gleision yn ystod yr Haf 2008.
Yn ogystal â'r chwaraewyr hyn, hefyd y mae tîm Gleision Caerdydd yn cynnwys chwaraewyr rhyngwladol carfan Cymru yn cynnwys Nick Robinson, Jamie Robinson, Scott Morgan, Deiniol Jones, Chris Czekaj, Tom James, Rhys Williams, Jamie Roberts, Robin Sowden-Taylor, Ceri Sweeney, T Rhys Thomas, Gareth Williams a John Yapp. Hefyd, y mae Leigh Halfpenny ac Andy Powell wedi'u cynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer Cyfres Ryngwladol yr Hydref 2008 ac y mae'n bosib y byddant yn chwarae mewn gêm ryngwladol am y tro cyntaf.
Hefyd, roedd gan dîm Gleision Caerdydd dri chwaraewr yr oeddent yn arfer chwarae dros dîm y Crysau Duon, sef y cyn-gapten Xavier Rush, Ben Blair a'r arwr Jonah Lomu (a chwaraeodd dros y Gleision yn ystod 2005/6). Hefyd, chwaraeodd y capten presennol, Paul Tito, dros dîm Maori Seland Newydd a, hefyd, y mae dau o'r garfan yn chwarae dros Tonga, sef Maama Molitika a Fao Filise.
Y clo, Deiniol Jones, oedd y chwaraewr cyntaf i chwarae dros y Gleision 100 o weithiau gan dderbyn ei gap arbennig yn ystod y cinio diwedd tymor ym mis Mai 2008. Y maswr, Nick Robinson, sydd wedi ennill nifer fwyaf pwyntiau'r Gleision gan ennill 641 o bwyntiau (mis Tachwedd 2008). Erbyn hyn, Nick sydd yn berchen ar record nifer ymddangosiadau mwyaf y Gleision, sef 107. Brawd Nicky, Jamie, sydd ar y brig o ran y chwaraewr i sgorio nifer fwyaf y ceisiau sef 25.
Mae Gleision Caerdydd wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi gweithgareddau rygbi ledled y rhanbarth. Mae menter Rygbi Cymunedol Gleision y Dyfodol yn cynnig hyfforddiant i bobl ifainc o dan 16 oed yn ogystal â chynnig cymorth i athrawon a hyfforddwyr clybiau o fewn ystod o weithgareddau yn cynnwys datblygu rygbi, cymorth cyntaf, dyfarnu a cheisiadau cyllidebol.
|